Mae ffermwr llaeth wedi ei sathru i farwolaeth gan darw tra’n profi gwartheg am TB yn Sir Gaerfyrddin.

Cafodd David Stephens, 55, ei ladd tra’n archwilio ei anifeiliaid yn Llandyfaelog ger Cydweli.

Aethpwyd â Mr Stephens i Ysbyty Treforys ond bu farw o anafiadau i’w frest.

Mae’r Gweithgor Iechyd a Dioglewch yn ymchwilio ar y cyd â Heddlu Dyfed Powys.