Mae bws ysgol wedi llithro oddi ar yr heol yng ngogledd Sir Benfro wrth i ddisgyblion gael eu cludo adref yn gynnar o achos yr eira.

Roedd tua 40 o ddisgyblion Ysgol Gyfun y Preseli ar y bws ar y pryd, ac yn teithio rhwng pentrefi Maenclochog a Mynachlog-ddu. Mae Cyngor Sir Benfro wedi dweud nad oes neb wedi cael ei anafu yn y digwyddiad.

Mae’r disgyblion wedi aros ar y bws tra eu bod nhw’n disgwyl am fws arall i’w cludo nhw adref.

Roedd Ysgol y Preseli wedi cau am 12.45 yn dilyn cawodydd eira sydd wedi ysgubo o’r dwyrain yn ystod y bore.