Ched Evans
Mae dynes wedi cael dirwy o £1,600 ar ôl cyfaddef iddi gyhoeddi enw dynes gafodd ei threisio gan  y pêl-droediwr Ched Evans ar Facebook.

Cyfaddefodd Alexandra Hewitt, 24, o Frychdyn yng Nghaer ei bod hi wedi enwi’r ddynes 19 oed ar wefannau cymdeithasol.

Roedd hi wedi pledio’n ddieuog wrth ymddangos gerbron Llys Ynadon Prestatyn yn gynharach heddiw, cyn newid ei phle.

Alexandra Hewitt yw’r degfed person sydd wedi ei chanfod yn euog o enwi’r ddynes. Cafodd y naw arall orchymyn i dalu £624 o iawndal i’r ddynes.

Cafodd Ched Evans ei garcharu am bum mlynedd y llynedd am dreisio’r ddynes mewn gwesty yn Sir Ddinbych ym mis Mai 2011.

Mae hawl gan bobl sydd wedi cael eu treisio i aros yn ddienw am weddill eu hoes.

Dywedodd Anna Pope ar ran yr erlyniad fod enw’r ddynes wedi ymddangos ar wefannau cymdeithasol Facebook a Twitter ar y diwrnod y cafwyd Ched Evans yn euog o’i threisio.

Ychwanegodd fod Alexandra Hewitt wedi ymddiheuro ar ôl dweud nad oedd hi’n ymwybodol ei bod hi wedi torri’r gyfraith wrth enwi’r ddynes.

Dywedodd Adam Antoszkics ar ran yr amddiffyniad, fod Hewitt wedi gwadu’r cyhuddiad i gychwyn am fod yna amheuaeth a oedd y sylwadau roedd hi wedi eu gwneud i’w ffrindiau yn gyfystyr â sylwadau cyhoeddus.

Cafodd Hewitt ddirwy o £405 a gorchymyn i dalu £624 o iawndal i’r ddynes, sydd bellach wedi enwid ei henw ac wedi gadael ardal y Rhyl.

Cafodd hefyd orchymyn i dalu costau o £600.

Ym mis Tachwedd, fe gollodd Ched Evans ei apêl yn erbyn y dyfarniad.