Eira yn Llanllyfni, Gwynedd, ddoe (llun Anna Wyn Jones)
Er bod llai o eira wedi disgyn dros nos, mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion melyn am rew drwy’r rhan fwyaf o Gymru a Lloegr heddiw.
Gydag eira wedi cywasgu a rhewi, caiff gyrwyr eu rhybuddio y bydd y ffyrdd yn debyg o fod yn beryglus drwy’r penwythnos.
Mae Pont Hafren ar yr A48 wedi cau yn y ddau gyfeiriad, ac mae cannoedd o deithiau awyren wedi cael eu canslo ym maes awyr Heathrow.
Ar y llaw arall dywed Trenau Arriva Cymru fod mwyafrif eu trenau’n rhedeg fel arfer heddiw.
Pont Senni ym Mhowys oedd un o’r lleoedd a gafodd eu taro waethaf ddoe, gyda 10 modfedd (25 cm) o eiria wedi disgyn.