Fe fydd Aelod Seneddol Plaid Cymru, Hywel Williams yn cyflwyno cynnig gerbron Tŷ’r Cyffredin heddiw yn galw am ymchwiliad i’r ffrae rhwng cerddorion a’r corff sy’n rheoli breindaliadau i gerddorion.

Bydd cynnig Hywel Williams yn gofyn i Adran Fusnes, Arloesedd a Sgiliau Llywodraeth y DU gynnal ymchwiliad i’r berthynas rhwng cerddorion â’r PRS.

Mae’r Aelod Seneddol eisoes wedi gofyn i weinidogion y Cynulliad ymyrryd yn y ffrae, gan ei fod yn bryderus am yr effaith y gallai’r ffrae rhwng y BBC ac Eos, y corff sy’n cynrychioli cerddorion Cymru, ei chael ar y diwydiant darlledu yng Nghymru.

Bryn Fôn

Bydd y canwr Bryn Fôn yn cwrdd ag Aelod Cynulliad yn y  Senedd heddiw i drafod y mater. Mae wedi cael gwahoddiad gan Blaid Cymru.

Mae Eos, sy’n cynrychioli oddeutu 300 o gerddorion, wedi datgan eu bod nhw am weld gwell cytundeb gan y BBC ar gyfer cerddorion, awduron a chyhoeddwyr.

Roedd yna obeithion y byddai’r ffrae wedi dod i ben erbyn hyn, ond mae’r trafodaethau’n parhau, gyda’r posibilrwydd erbyn hyn o gychwyn ar broses gymodi annibynnol rhwng y ddwy ochr i geisio cael cytundeb.

Mae Eos wedi dweud y gallai’r trafodaethau bara hyd at fis arall, a bu’n rhaid i Radio Cymru leihau ei oriau darlledu ers i’r ffrae ddechrau.

Mae Eos eisoes wedi dod i gytundeb gydag S4C ynghylch taliadau.

Ar ddechrau’r wythnos, cynigiodd yr awdures Angharad Tomos ei chefnogaeth hithau i’r ymgyrch, gan benderfynu gwrthod yr hawl i Radio Cymru ddarlledu un o’i straeon byrion.

Hi yw’r diweddaraf o blith nifer o bobl, gan gynnwys Dewi Pws a Jim Parc Nest, sydd wedi gwrthod cyfrannu at raglenni’r BBC. Mae’r actor Dafydd Hywel hefyd wedi cyhoeddi heddiw ei fod yn ymuno a’r boicot.