Dr Rowan Williams
Mae cyn Archesgob Caergaint, y Dr Rowan Williams wedi cymryd ei sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi fel arglwydd am oes.
Roedd yr Arglwydd Williams o Ystumllwynarth wedi tyngu llw i’r Frenhines yn ystod seremoni heddiw.
Roedd wedi bod yn aelod o’r Arglwyddi ers cael ei benodi yn Archesgob Caergaint yn 2002 a chafodd ei enwebu gan y Prif Weinidog David Cameron ar ôl cyhoeddi ei fod yn rhoi’r gorau i fod yn Archesgob.
Fe ddaeth ei gyfnod fel Archesgob i ben ar ddiwedd y flwyddyn, ac fe fydd yn cychwyn ar swydd newydd fel Meistr Coleg Magdalen yng Nghaergrawnt.
Cafodd ei olynu gan y Gwir Barchedig Justin Welby, Esgob Durham.