Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dweud na fydd yn ymyrryd ar hyn o bryd yn yr anghydfod sy’n parhau rhwng y BBC ac EOS.
Roedd Carwyn Jones yn ymateb i gwestiwn yn y Senedd gan AC Plaid Cymru Rhodri Glyn Thomas heddiw.
Ond, pwysleisiodd y Prif Weinidog pwysigrwydd datrys yr anghydfod rhwng Radio Cymru a cherddorion Cymraeg mor fuan â phosib.
“Mae’n hynod o bwysig, wrth gwrs, bod yna gasgliad i’r trafodaethau sydd yn parhau ar hyn o bryd a dw i yn gobeithio y byddwn ni mewn sefyllfa, gydag amser, lle y bydd pawb yn fodlon gyda’r setliad,” meddai.
Serch hynny, nid oedd yn teimlo ar hyn o bryd bod angen ymyrryd yn y ddadl, sydd wedi gweld mwy na 300 o aelodau Eos yn gwrthod caniatâd i Radio Cymru chwarae eu caneuon, gan olygu fod yr orsaf wedi gorfod cwtogi oriau darlledu a throi at gerddoriaeth arall.
“Fe wnes i grybwyll wythnos ddiwethaf y bydden ni’n edrych yn fanwl ar y sefyllfa. Dw i ddim yn credu bod yna le i ymyrryd ar hyn o bryd.
“Ond dyw e ddim yn beth positif bod pobl sydd yn gwrando ar Radio Cymru ddim yn gallu clywed cerddoriaeth Gymraeg. Felly mae’n rhaid i’r sefyllfa yma newid, a newid er gwell cyn gynted ag sy’n bosib.”
Mae aelodau Eos yn anhapus gyda’r arian y mae’r BBC yn talu am chwarae eu cerddoriaeth, gan ddweud nad yw’n deg eu bod yn derbyn llai am eu gwaith na cherddorion eraill. Dadl y BBC yw bod y taliadau yn adlewyrchu maint cynulleidfa Radio Cymru.
Mae’r trafodaethau rhwng y BBC ac Eos yn parhau.