Bydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn gwneud penderfyniad ynglyn ag ad-drefnu gwasanaethau yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro mewn cyfarfod heddiw.

Daeth y cyfnod ymgynghori o 12 wythnos i ben ym mis Hydref y llynedd ac mae disgwyl y byddan nhw’n cau rhai ysbytai cymunedol a rhai gwasanaethau arbenigol.

O dan y cynlluniau, mae’n debygol y bydd ysbytai cymunedol Y Tymbl, Tregaron ac Aberaeron yn cau a bydd adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Tywysog Phillip yn Llanelli yn newid i fod o dan ofal nyrsys yn unig.

Bydd uned newydd i roi gofal i fabanod sâl a chynnar yn cael ei agor yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ond mae ofnau y bydd uned gofal arbennig i fabanod yn Ysbyty Llwynhelyg yn Sir Benfro yn cau.

Ond mae’r bwrdd iechyd wedi  addo buddsoddiad gwerth £40 miliwn ar gyfer canolfannau iechyd cymunedol newydd i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys profion diagnostig, apwyntiadau cleifion allanol a ffisiotherapi.

Bydd y rhain yn Aberaeron, Aberteifi, Caerfyrddin, Cross Hands, Crymych a Hendy-gwyn.

‘Heriau’

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Trevor Purt: “Rydym wedi cwblhau proses ymgynghori estynedig a hir yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac yn fwy diweddar, ymgynghoriad ffurfiol.

“Rydym wedi bod yn ystyried adborth yn y cyfamser ers i’r ymgynghoriad ddod i ben ac, ynghyd â thystiolaeth arall ac yn wyneb yr heriau y mae’r Gwasanaeth Iechyd yn eu hwynebu, bydd y bwrdd yn ystyried nifer o argymhellion yn ei gyfarfod ar nos Fawrth, Ionawr 15.

“Hoffem atgoffa aelodau’r cyhoedd y bydd unrhyw newidiadau sy’n cael eu cymeradwyo gan y bwrdd yn dangos gwell deilliannau ar gyfer ein cleifion, ac fe fyddan nhw’n ddiogel ac yn gynaliadwy. Fyddwn ni ddim yn cyfaddawdu o ran gofal cleifion.”

Ychwanegodd y Cadeirydd, Chris Martin: “Rydym yn hynod ddiolchgar fod cynifer o bobl wedi treulio amser ac wedi trafferthu i roi eu safbwyntiau i ni.

“Cafwyd cryn dipyn o ddadlau ac rydym yn gwybod bod nifer o’n staff, cyfranddalwyr a chleifion yn aros yn amyneddgar am ganlyniadau’r ymgynghoriad a’r penderfyniadau terfynol ynghylch unrhyw newidiadau.

“Rydym yn diolch i chi am eich amynedd parhaus; bu’r broses hon yn hynod bwysig a gwerthfawr ac mae’n brawf pellach o ba mor bwysig yw’r Gwasanaeth Iechyd i ni gyd.”