Kyle Vaughan
Mae Heddlu Gwent wedi rhyddhau dyn 27 oed oedd yn cael ei holi ar amheuaeth o lofruddio.

Cafodd ei arestio mewn perthynas â diflaniad Kyle Vaughan, 24, o Drecelyn bythefnos yn ôl.

Mae bachgen 15 oed o Abercarn a dyn 21 oed o Drecelyn a gafodd eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr, wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Cafodd dyn 62 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder hefyd ei ryddhau ar fechnïaeth yn gynharach.

Mae’r heddlu yn parhau i ymchwilio i ddiflaniad Kyle Vaughan, a gafodd ei weld y tro diwethaf ar 30 Rhagfyr yn ardal Abercarn a Rhisga. Cafwyd hyd i’w gar, Peugeot 306, yn ddiweddarach y noson honno ar yr A467. Mae’r heddlu’n credu fod y car wedi bod mewn gwrthdrawiad.

Mae Heddlu Gwent wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio 101 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.