Mae tri aelod o’r un teulu yn yr ysbyty yng Nghaerdydd ar ôl iddyn nhw gael eu taro gan gar a adawodd y ffordd ger Dinas Powis ym Mro Morgannwg.

Mae dynes 65 oed yn dioddef o anafiadau i’w phen, a dau ddyn, 68 a 38 oed, yn diodde o anafiadau eraill ar ôl i gar Seat coch eu taro wrth iddyn nhw fynd am dro brynhawn ddoe.

Gŵr lleol 21 oed oedd yn gyrru’n Seat yn ôl yr heddlu ond mae nhw eisiau holi gyrrwr car lliw arian oedd hefyd yn teithio ar hyd Ffordd Millbank yr un pryd.

Roedd y ffordd ar gau am rai oriau er mwyn i’r heddlu ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd a mynd a’r car Seat o’r fan.

Mae Heddlu De Cymru yn gofyn i dystion neu unrhyw un fu’n rhoi cymorth i’r rhai gafodd eu hanafu yn syth wedi’r ddamwain i gysylltu â nhw trwy ffonio 01792 456999 a gofyn am estyniad 88331.