Mae nifer yr heddlu sydd dan 26 oed wedi gostwng bron 50% yng Nghymru a Lloegr yn ystod y ddwy flynedd diwethaf – ond mae’r sefyllfa yn llawer gwaeth yn ardal Heddlu Gogledd Cymru.

Mae BBC Radio 4 wedi canfod trwy cais Rhyddid Gwybodaeth bod 9,088 o swyddogion dan 26 yn cael eu cyflogi yn 2009-10 ond dim ond 4,758 yn ystod 2011-12.

Heddlu Cleveland sy’n cyflogi’r nifer lleiaf yn yr oedran yma. Bu gostyngiad o 74% yno ond Heddlu Gogledd Cymru sydd nesaf ar y rhestr gyda gostyngiad o oddeutu 72%.

Mae niferoedd Heddlu De Cymru wedi gostwng 60% a niferoedd Dyfed-Powys a Gwent wedi gostwng dros 40%.

Dim ond heddluoedd Surrey a Dinas Llundain sydd wedi gweld cynnydd mewn recriwtio swyddogion ifanc.

Ymateb

Doedd neb ar gael o Heddlu Gogledd Cymru i ymateb i’r ffigyrau ond dywedodd Comisiynydd Heddlu’r Llu, Winston Roddick, bod y gostyngiad yn anochel.

“Mae cwtogi ar niferoedd yr heddlu yn anochel yn mynd i daro’r oedran yma oherwydd y dirwasgiad ariannol ar hyn o bryd. Mae’r ffigyrau beth bynnag yn dangos bod Heddlu Gogledd Cymru wedi gwneud deunydd da dros ben o’r arian sydd ar gael gan fod troseddu wedi gostwng yn sylweddol” meddai.

“Ar y llaw arall, fe wnês i addo wrth ymgyrchu am y swydd yma fy môd am roi rhagor o blismyn ar y stryd ac mi rydw’i yn trafod yr union beth yma efo’r Prif Gwnstabl ar hyn o bryd.”

“Mi fydda’i yn cyflwyno drafft cyntaf fy nghyllideb i’r Panel Heddlu a Throsedd i’w drafod yr wythnos yma. Os y bydd yn cael ei gadarnhau yna fe fyddwn yn gweld cynnydd mewn recriwtio swyddogion ifanc a bydd y ffigyrau wedyn yn codi yn sylweddol eleni.”