Y Fari Lwyd ar faes Eisteddfod Genedlaethol 2012
Heno, os y gwelwch chi benglog ceffyl yn crwydro’r strydoedd, o gartre’ i gartre’, peidiwch â dychryn!
Mae’n Ionawr 12, a fory (Ionawr 13) ydi’r Hen Galan – diwrnod cynta’r flwyddyn ar yr hen galendr, a rhan o’r traddodiad Cymreig ydi ymweliad y Fari Lwyd.
Mae ardaloedd o Sir Benfro, Cwmtawe, Dinas Mawddwy a Llandre yng ngogledd Ceredigion, yn dal i gadw’r traddodiad hwnnw eleni.
Yn ôl y traddodiad, mae’r Fari Lwyd yn dod â lwc dda yn y cyfnod rhwng y Dolig a’r Flwyddyn Newydd. Y syniad ydi fod y penglog ceffyl yn cael ei osod ar ben ffon, a lliain gwyn yn cael ei gysylltu i’r ffon. Fe fydd dyn, fel arfer, yn cuddio dan y lliain, ac yn cymryd arno fod yn gorff y Fari.
Fel arfer, fe fydd y Fari Lwyd yn rhan o griw mwy o bobol sy’n mynd o gwmpas yn canu carolau, a’r disgwyl ydi y byddan nhw’n cael eu derbyn i’r ty, ac yn derbyn bwyd a diod yno.