Mae Cyngor Môn yn gofyn barn trigolion yr ynys ar gynigion y gyllideb, wrth i’r awdurdod wynebu’r flwyddyn ariannol anoddaf eto.
Fe gafodd dogfen newydd Ymgynghoriad ar y Gyllideb 2013/14 (dan y teitl ‘Cwrdd â’r Heriau’ ei lansio ddoe.
Mae gan drethdalwyr dair wythnos i roi eu barn ar sut y dylai’r cyngor wario ei arian, a’r bwriad o gynyddu Treth Cyngor o 5%.
Mae’r hinsawdd economaidd sydd ohoni wedi golygu toriadau dwys o ran gwariant cyhoeddus ac mae Ynys Môn yn wynebu bwlch o £3.45m yng nghyllideb 2013-14 a bwlch o £10m dros y tair blynedd i 2015-16.
“Bydd hon yn gyllideb hynod o anodd ni, ac oherwydd y trafferthion ariannol sydd yn wynebu llywodraeth leol, fyddwn, yn syml, ddim yn gallu cynnal yr holl wasanaethau yr ydym yn eu darparu,” meddai’r Cynghorydd Bryan Owen, arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn.
“Does ganddon ni ddim dewis ond blaenoriaethu gwasanaethau, a bydd adborth y cyhoedd, yn ystod y cyfnod ymgynghori holl bwysig yma, yn hanfodol wrth i ni geisio dygymod â chyllideb hynod o anodd tra hefyd yn cefnogi’n blaenoriaethau strategol.”
Mwy o wasanaethau ar y cyd
Mae dogfen ‘Cwrdd â’r Heriau’ hefyd yn tanlinellu bwriad y Cyngor i ddarparu mwy o wasanaethau drwy weithio mewn partneriaeth gyda llai o arian yn dod o gyfeiriad Llywodraeth Cymru a phwysau ychwanegol ddaw yn sgil poblogaeth sy’n heneiddio.
Mae’r Cyngor Sir eisiau adborth y cyhoedd ar amryw o feysydd, gan gynnwys:
● Cynyddu cyllideb gwasanaethau cymdeithasol i osgoi toriadau sylweddol;
● Cynnal y gyllideb hamdden i roi amser i newid y ddarpariaeth;
● Blaenoriaethu twf mewn gwasanaethau plant a’r Rhaglen Ynys Ynni;
● Awgrymiadau all arwain at arbedion effeithlonrwydd neu drawsffurfio gwasanaethau.