Fe allai dros filiwn o blant fod yn bwyta cinio afiach oherwydd nad ydi eu hysgolion yn dod o dan reolau sy’n edrych ar ôl safonau bwyd. Dyna rybudd arweinwyr cynghorau.
Mae ysgolion rhydd ac academïau, sydd ddim yn rhwym i reolau cenedlaethol yn ymwneud â sut i redeg sefydliadau addysg, yn methu yn “y weithred foesol” o wneud yn siwr fod eu disgyblion yn bwyta bwyd iach, yn ôl y Gymdeithas Awdurdodau Lleol (LGA).
Yn ôl yr LGA, mae’n poeni y gallai hyd at filiwn o blant fod yn bwyta sothach i ginio.