Mae bron i hanner busnesau y Deyrnas Unedig yn cefnogi perthynas “lacach” rhwng Prydain a gweddill Ewrop. Ond mae’r 47% sy’n dweud hyn yn awyddus i aros yn rhan o’r “clwb”, meddai arolwg newydd.

  • Dim ond 9% o fusnesau sy’n dymuno gweld mwy o gydweithio;
  • Mae 12% eisiau gadael yn gyfan gwbwl;
  • Mae 26%  o gwmniau eisiau i’r berthynas aros fel ag y mae hi ar hyn o bryd:
  • Dydi 6% ddim yn siwr be’ ddylai ddigwydd.

Fe gafodd 1,840 o gwmniau eu holi fel rhan o’r arolwg gan Siambrau Masnach Prydeinig (y BCC).

Mae 47% yn awyddus i weld “perthynas lacach… ond gyda’r Deyrnas Unedig yn aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd”.