Mae gweithwyr Parc Cenedlaethol Eryri wedi bod yn teimlo’n isel ac yn flin dros y Dolig, wedi i’r Awdurdod roi codiad cyflog o £6,370 i’w Prif Weithredwr.

Ond mae’r Awdurdod wedi amddiffyn y penderfyniad i godi cyflog Aneurin Phillips i £81,382, gan ddweud: “O gyflogau’r 15 sy’n Brif Weithredwyr ar Awdurdodau Parciau Cenedlaethol y DU, mae’r cyflog hwn yn hafal â’r ail isaf”.

Ar Ragfyr y 5ed – a hynny tu ôl i ddrysau caeedig heb yn wybod i’r cyhoedd na’r Wasg – fe bleidleisiodd Awdurdod Parc Eryri i godi cyflog Aneurin Phillips i £75,569, a rhoi sicrwydd y bydd yn codi i £81,382 o fewn pedair blynedd.

Daw’r penderfyniad gan yr Awdurdod ar adeg pan mae cyflogau gweithwyr cyffredin y Parc wedi eu rhewi ers 2009.

Canslo bwffe

Mae golwg360 ar ddeall fod bwffe traddodiadol Nadolig  Cadeirydd yr Awdurdod wedi ei ohirio, gyda staff yn gyndyn i fynychu a minglo gydag aelodau’r Awdurdod oherwydd anniddigrwydd gyda chodiad cyflog y Prif Weithredwr.

Hefyd ni chafodd y staff eu parti Dolig arferol, yn rhannol am nad oedden nhw’n teimlo fel dathlu oherwydd yr hyn maen nhw’n ei weld fel un rheol i’r Prif Weithredwr ac un arall i’r gweithwyr cyffredin.

Dros bedair blynedd mi fydd cyflog y Prif Weithredwr yn codi £6,370, yn unol ag argymhellion cwmni o ymgynghorwyr o’r enw The Hay Group.

Meddai llefarydd Awdurdod y Parc: “Hyd yn oed ar ôl gweithredu’r cyflog newydd yn llawn dros bedair blynedd, bydd cyflog y Prif Weithredwr yn dal i fod yn gymharol isel o’i gymharu ag awdurdodau eraill am mai argymhelliad y Grŵp Hay oedd gosod y cyflog ar derfyn isaf chwartel isaf  y sectorau cyhoeddus a di-elw gan symud i’r canol ar ei derfyn uchaf yn unig. Dengys hyn nad yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gyflogwr gor-hael mewn perthynas â’i Brif Weithredwr o’i gymharu â chyflogwyr sector cyhoeddus eraill. Byddai gohirio adolygiad cyflog ond yn gohirio’r broblem ar gyfer y dyfodol ac yn creu anawsterau cadw a recriwtio posibl i’r Awdurdod yn y cyfamser.

Ceiniogwerth Guto Bebb

Guto Bebb yw Aelod Seneddol Aberconwy, ac mae talp o diriogaeth Parc Cenedlaethol Eryri yn ei etholaeth.

“Mae unrhyw gorff cyhoeddus sy’n credu bod o’n dderbyniol i godi cyflogau prif swyddogion pan mae’r gweithwyr ar lefelau is yn derbyn rhewi eu cyflogau, yn dangos diffyg sensitifrwydd a diffyg dealltwriaeth o’r her ariannol sy’n gwynebu eu staff nhw,” meddai Bebb.

“Mae’n annerbyniol bod cyrff cyhoeddu yng Nghymru – sydd efo’r cyfartaledd cyflog isaf ym Mhrydain – yn gweld cyfiawnhad i wneud hyn ar adeg mor anodd.”