Llysoedd Merthyr
Mae dyn  18 oed yn ymddangos gerbron ynadon Merthyr Tudful heddiw ar gyhuddiad o lofruddio dyn yng Nghwm Cynon.

Cafodd corff Andrew David Male, 45, ei ddarganfod yn ei gartref yn Heol Caerdydd, Aberaman, fore Mercher.

Dywedodd rhieni Andrew Male eu bod wedi eu tristáu a’u hysgwyd gan yr hyn ddigwyddodd i’w mab, ac y byddai colled fawr ar ei ôl.