Mae Eifftolegwyr wedi darganfod fod darn o wydr ym Mhrifysgol Abertawe yn perthyn i lestr 3000 o flynyddoedd oed oedd yn perthyn i un o’r Pharoaid.
Mae’r fâs liwgar yn amgueddfa Cairo ac roedd yn perthyn i’r Pharo Amenhotep II oedd yn byw rhwng 1498 a 1387 Cyn Crist.
Cafodd y darn o wydr 4cm o hyd ei roi i amgueddfa Abertawe gan Anni Sprake Jones o Abergwili, oedd yn chwaer i Harold Jones a fu’n artist yn Nyffryn y Brenhinoedd yn nechrau’r ugeinfed ganrif.
Dim ond yn ddiweddar roedd yr Eifftolegydd Birgit Schlick-Nolte wedi cyhoeddi ei chanfyddiad fod y darn gwydr yn perthyn i’r fâs yn amgueddfa Cairo. Gwnaeth y canfyddiad ar y cyd gyda churadur cyntaf casgliad Eifftaidd Prifysgol Abertawe, a’r awdures Gymraeg, Kate Bosse-Griffiths.
Mae’r darn gwydr yn nodi enw’r Pharo mewn coch a melyn, ar gefndir glas, ac mae i’w gweld yng Nghanolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe, ar fenthyg o amgueddfa Abertawe.
Dywedodd Dr Carolyn Graves-Brown, curadur presennol y ganolfan Eifftaidd, fod “gwydr o’r cyfnod yma yn brin iawn yn yr Aifft ac roedd yn cael ei roi yn rhodd diplomataidd rhwng brenhinoedd yr ardal.”
“Ar y pryd roedd creu gwydr yn fonopoli brenhinol ac mor werthfawr ag aur neu arian.”