Caerdydd
Gyda’r ffrae rhwng Eos a’r BBC yn parhau, mae hi’n edrych yn llwm ar gerddorion Cymru. Ond, mae Cerdd Cymru am gynnig cyfle arbennig iawn i gerddorion pan fydd gŵyl WOMEX yn dod i’r brifddinas eleni.

Mae WOMEX yn ffair gerddoriaeth byd rhyngwladol sy’n gyfle i gerddorion proffesiynol y byd gwerin, roots, ethnig a thraddodiadol ymgynnull.

Mae disgwyl i oddeutu 2,500 o gynrychiolwyr o 1,250 o gwmniau ac o 98 o wledydd gwahanol yn ogystal â 300 o newyddiadurwyr cenedlaethol a rhyngwladol ymgynnull i rwydweithio.

Ac er mwyn sicrhau bod cerddorion Cymru’n gallu manteisio’n llawn ar y cyfle, mae Cerdd Cymru  wedi rhoi rhaglen datblygu at ei gilydd er mwyn rhoi’r hyder i gerddorion a rheolwyr cerddoriaeth ehangu eu gorwelion tu hwnt i Gymru.

Dywedodd Eluned Haf, Cyfarwyddwr Cerdd Cymru, bod y cynllun wedi ei ddatblygu er mwyn “hyfforddi artistiaid mewn sgiliau uwch, deallusrwydd, a gwybodaeth er mwyn datblygu hyder a disgwyliadau.  A chynnig cymorth iddyn nhw farchnata eu gwaith trwy annog mwy o reolwyr cerddoriaeth yng Nghymru.”

Ychwanegodd: “Cynlluniwyd y rhaglenni i feithrin cerddorion a rheolwyr artistiaid ymroddedig, ac i roi help llaw iddyn nhw pan fyddant yn cymryd y cam cyntaf yn y farchnad gerddoriaeth fyd-eang.

“Nid WOMEX 13 yw’r nod – yn hytrach dyma’r cam cyntaf ar y ffordd sy’n arwain at yrfaoedd rhyngwladol mwy cynaliadwy ar gyfer cerddorion talentog Cymru,” meddai Eluned Haf.

Bydd y Rhaglen Datblygu Artistiaid yn cael ei redeg ar y cyd gan  Trac, Asiantaeth Ddatblygu Cerddoriaeth Werin Cymru a Phrifysgol Bangor tra bydd y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn arwain y Rhaglen Rheolwyr Cerddoriaeth.

Bydd y cyrsiau’n cychwyn ym mis Ebrill ac mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i gael lle ar y cwrs ar gael ar wefan Cerdd Cymru: www.cerddcymru.com <http://www.cerddcymru.com>.