Mae llanc 17 oed wedi dioddef anafiadau difrifol i’w ben a’i gorff ar ôl cael ei daro gan gar ger Wrecsam yn gynnar y bore ma.

Roedd y cerddwr mewn gwrthdrawiad â Volkswagen Polo gwyn ar Heol yr Wyddgrug yng Ngwersyllt am 12.37.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Maelor Wrecsam ac mae mewn cyflwr difrifol.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio ar i bobol sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101, neu’n ddi-enw drwy ffonio Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.