Mae’r heddlu’n ymchwilio ar ôl i gorff dynes gael ei ddarganfod mewn tŷ yn y Rhyl.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r tŷ yn Rhodfa Kingsley, y Rhyl bnawn dydd Sul ar ôl i barafeddygon ddarganfod corff dynes 32 oed.

Fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal.

Mae’r ddynes wedi cael ei hadnabod yn ffurfiol ac mae ei theulu wedi cael gwybod ond nid yw ei manylion yn cael eu rhyddhau ar hyn o bryd.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r Gogledd bod ei marwolaeth yn cael ei thrin fel un “anesboniadwy” ar hyn o bryd ac mae’r mater wedi cael ei gyfeirio at y crwner.