Mae Heddlu’r Gogledd wedi cadarnhau y bydd chwe tafarn yn Ynys Môn yn cau am dri diwrnod am werthu  alcohol i bobl o dan oed.

Rhoddodd yr Heddlu orchymyn i’r chwe tafarn yn Ynys Môn gau am gyfnod o 72 awr.

Mae’n  dilyn cyfres o “brofion prynu” lle cafodd alcohol ei werthu i bobl o dan 18 oed ar ddau wahanol achlysur o fewn cyfnod o dri mis.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru:“Mae’r Crown ym Modedern, Liverpool Arms Amlwch, y Gazelle a Thafarn y Fic ym Mhorthaethwy, Tafarn Tŷ Gwyn yn Llanfairpwll a’r George and Dragon ym Miwmares i gyd wedi cael y dewis i gau am gyfnod penodol o amser yn hytrach na chael eu herlyn am werthu alcohol i bobl o dan 18 oed.”

Roedd yr heddlu wedi cyflawni dau brawf prynu, un ym mis Medi ac un ym mis Rhagfyr.  Gwerthodd 13 o dafarndai alcohol i bobl o dan 18 oed ar yr achlysur cyntaf, gyda’r ffigwr yn gostwng i naw ar yr ail achlysur.

Ym mis Rhagfyr, rhoddwyd hysbysiad cosb benodol o £80 i naw o staff gyda chwech o ddeiliaid trwydded hefyd yn cael y dewis i gau.

Bydd y Crown Bodedern a Thafarn Tŷ Gwyn Llanfairpwll ar gau rhwng 4 – 7 Ionawr 2013.

Bydd y Gazelle, Gwesty’r Fic, y George and Dragon a’r Liverpool Arms ar gau 11 -14 Ionawr 2013.

Dywedodd yr Arolygydd dros dro Gethin Jones: “Bydd y mentrau hyn yn parhau gan eu bod yn atgyfnerthu’r bartneriaeth rhwng Adran Drwyddedu Cyngor Ynys Môn a’r nod sydd gennym o fynd i’r afael â gwerthu alcohol i bobl o dan oed a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag alcohol.

“Rydym yn gofyn i’r holl ddeiliaid trwydded gysylltu â’r Adran Drwyddedu er mwyn gallu cymryd rhan yn eu cynlluniau hyfforddiant.”