Caerfaddon
Fe wnaeth gwr 81 oed o Wlad yr Haf yn ne-orllewin Lloegr gael strôc yn ddiweddar yn ei gartref yng Nghaerfaddon. Cafodd ei ruthro i’r ysbyty ble bu’n rhaid i’w wraig gyfieithu ar ei ran gan ei fod wedi llwyr anghofio’r Saesneg a siarad dim ond Cymraeg!

Mae Alun Morgan yn dod o drâs Cymry Llundain ac roedd yn gwybod ychydig eiriau o Gymraeg pan roedd yn blentyn. Yna, adeg yr ail ryfel byd cafodd ei anfon i fyw efo’i fodryb yn Aberaeron a bu’n siarad Cymraeg tra bu’n byw yno.

Dyw Mr Morgan ddim wedi siarad Cymraeg yn rheolaidd ers degawdau beth bynnag ac fe gafodd dipyn o sioc pan wnaeth o ail ddecrhau siarad yr iaith a dim arall ar ôl ei waeledd.

Doedd o ddim wedi sylweddoli ei fod yn siarad Cymraeg hyd nes i’w wraig ddweud wrtho – yn Gymraeg. Fe wnaeth ail ddechrau siarad Saesneg rhyw dridie wedyn.

Mae’r cyflwr Aphasia yn gallu creu problemau cyfathrebu i gleifion sydd wedi diodde strôc ac yn ôl y Gymdeithas Strôc mae’n bur debyg mai dyma achosodd i Mr Morgan gofio’i Gymraeg – ac anghofio’i Saesneg!