Gorsaf gwylwyr y Glannau, Caergybi
Mae Heddlu Gogledd Cymru a Gwylwyr y Glannau wedi rhoi’r gorau i chwilio traeth Newry yng Nghaergybi ar Ynys Môn ar ôl i ddillad dyn a phaced o sigarets gael eu darganfod yno.
Yn ôl yr heddlu does yna ddim adroddiadau bod rhywun ar goll a ‘dwy Gwylwyr y Glannau ddim wedi dod ar draws unrhyw beth amheus felly rhoddwyd y gorau i’r chwilio toc wedi unarddeg y bore yma.
Yn ôl y Gwylwyr, daethpwyd o hyd i jîns efo paced o sigarets yn y boced a siwmper efo hwd ar y traeth ychydig cyn saith o’r gloch y bore yma.
Bu bâd achub Caergybi hefyd yn chwilio’r môr ar ôl iddi ddechrau gwawrio.