Mae Heddlu Dyfed Powys y parhau i holi dyn 28 oed gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i gorff gwraig gael ei ddarganfod yn nhre’ Caerfyrddin ddoe.

Fe gafodd plismyn eu galw i dŷ ym Maes Yr Ysgol toc cyn 11 o’r gloch fore dydd Nadolig. Fe ddaethon nhw o hyd i wraig 37 mlwydd oed yn farw yno.

Cafodd y dyn ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn y fan a’r lle, ac mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i unrhyw un oedd ym Maes Yr Ysgol rhwng 5 o’r gloch ar noswyl Nadolig a bore dydd Nadolig, i gysylltu â nhw.

“Mae swyddogion arbennig yn cynnig cefnogaeth i’r teulu,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu. “Mae’r gymuned hefyd yn parhau i gynorthwyo’r heddlu gyda’i hymchwiliad.