Dave Brailsford
Cafodd y seiclwr Bradley Wiggins ei goroni yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC neithiwr, bum mis ar ôl ennill ras y Tour de France yng nghrys tîm Sky.
Rheolwr tîm Sky, a phennaeth perfformio tîm Seiclo Prydain, Dave Brailsford, oedd enillydd teitl Hyfforddwr y Flwyddyn yn y seremoni neithiwr.
Y gŵr o Ddeiniolen oedd wrth y llyw wrth i Brydain gipio wyth medal aur yng ngemau Olympaidd Llundain, gan ail adrodd camp y tîm yn Beijing 2008.
Andy Murray yn drydydd
Enillodd Bradley Wiggins fedal aur yn y ras yn erbyn y cloc yn y Gemau Olympaidd eleni, a gyda’i orchest yn Ffrainc fe oedd y ffefryn clir o flaen llaw i gipio teitl Personoliaeth y Flwyddyn. Pleidleisiodd bron i 500,000 o bobl drosto, sef 30.25% o’r holl bleidlais.
Yr athletwraig Jessica Ennis oedd yn ail yn dilyn ei llwyddiant yn yr heptathlon yn Llundain, a’r Albanwr Andy Murray oedd yn drydydd ar ôl blwyddyn fawr iddo yntau – ennill teitl yr US Open a churo Roger Federer i ennill y fedal aur ar gyrtiau Wimbledon.