Dreigiau 53–3 Mogliano

Cafodd y Dreigiau fuddugoliaeth gyfforddus ar Rodney Parade nos Sul wrth guro’r tîm o’r Eidal, Mogliano, yng ngrŵp 3 Cwpan Amlin.

Sicrhaodd y Cymry bwynt bonws gyda phedwar cais cyn yr egwyl ac er i bethau dawelu ychydig yn yr ail gyfnod roedd hi’n fuddugoliaeth gyfforddus i’r Dreigiau.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y Dreigiau ar dân gyda chais unigol da gan Dan Evans. Torrodd y maswr y llinell fantais yn ei hanner ei hun cyn ochr gamu heibio’r cefnwr a thirio o dan y pyst. 7-0 wedi i Evans drosi ei gais ei hun.

Tarodd yr Eidalwyr yn ôl gyda thri phwynt o droed y mewnwr, Enrico Endrizzi, ond buan iawn yr adferodd Evans y saith pwynt o fantais gyda chic gosb i’r Dreigiau.

Yna, daeth cais unigol da arall i’r tîm cartref hanner ffordd trwy’r hanner, i Mike Poole y tro hwn. Gwrthymosododd yr asgellwr o’i hanner ei hun cyn curo’r dyn olaf gyda chic a chwrs.

Roedd sgrym y Cymry rhy gryf i’w gwrthwynebwyr a dyfarnwyd cais cosb wedi hanner awr ac roedd y pwynt bonws yn ddiogel ddau funud cyn yr egwyl diolch i Wayne Evans. Gwnaeth y clo, Andrew Coombs, yn dda i daro cic Endrizzi i lawr cyn dadlwytho yn y dacl i Evans, 29-3 yn dilyn trosiad Dan Evans.

Ail Hanner

Tynnodd y Dreigiau’r droed oddi ar y sbardun yn yr ail hanner a bu rhaid aros tan yr awr am y pumed cais. Cais hawdd oedd hwnnw i’r canolwr, Pat Leach, oherwydd gwaith da Poole i gadw’r bêl ar dir y chwarae.

Ymunodd yr eilydd fewnwr, Jonathan Evans, â’r hwyl ddeg munud yn ddiweddarach wrth dorri trwy amddiffyn blinedig yr Eidalwyr yn rhy rhwydd o lawer.

Roedd y gêm ar ben bellach ond gorffennodd y Dreigiau’n gryf gyda dau gais arall yn hwyr yn y gêm, y naill i’r prop, Phil Price, a’r llall i’r eilydd ganolwr, Jack Dixon.

Buddugoliaeth o hanner can pwynt i’r Dreigiau yn y diwedd felly, canlyniad sydd yn eu rhoi’n gyfartal â Bayonne yn grŵp 3 gydag un pwynt ar ddeg. Y Ffrancwyr yw gwrthwynebwyr nesaf y Dreigiau yn y flwyddyn newydd.

.

Dreigiau

Ceisiau: Dan Evans 7’, Mike Poole 20’, Cais Cosb 30’, Wayne Evans 38’, Pat Leach 60’, Jonathan Evans 70’, Phil Price 76’, Jack Dixon 80’

Trosiadau: Dan Evans 8’, 30’, 40’, Lewis Roblin 71’, 80’

Cic Gosb: Dan Evans 14’

.

Mogliano

Cic Gosb: Enrico Endrizzi 10’