Gap Cei Connah G-G Prestatyn

.

Aberystwyth G-G Airbus

.

Bala 1-2 Llanelli

Dychwelodd Llanelli o’r Bala gyda thri phwynt brynhawn Sadwrn er iddynt deithio yno heb eilyddion!

Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr fe roddodd Mark Jones y tîm cartref ar y blaen toc cyn yr awr gyda gôl dda. Creodd cyn chwaraewr Wrecsam le iddo’i hun ar ochr y cwrt cosbi cyn sgorio gydag ergyd dda.

Roedd gôl Antonio Corbisiero i unioni’r sgôr ddeg munud o’r diwedd yn ergyd o safon hefyd. Dyrnodd Ashley Morris y bêl i’w lwybr a saethodd yntau hi’n gywir i gefn y rhwyd.

Ac fe ddwynodd Llanelli’r pwyntiau i gyd bum munud yn ddiweddarach pan orffennodd Martin Rose symudiad trwy rwydo gôl syml.

Mae’r canlyniad yn codi Llanelli dros Aberystwyth i’r nawfed safle tra mae’r Bala yn aros yn bumed.

(Torf – 136)

.

Bangor 2-2 Caerfyrddin

Cafwyd goliau lu a thri cherdyn coch yn Nantporth brynhawn Sadwrn wrth iddi orffen yn gyfartal rhwng Bangor a Chaerfyrddin.

Peniodd Craig Hughes Gaerfyrddin ar y blaen wedi dim ond saith munud ond unionodd Ryan Edwards i Fangor bum munud cyn yr egwyl gydag ergyd o bellter, ei gôl gyntaf dros y clwb.

Ac roedd y Dinasyddion ar y blaen erbyn yr egwyl wedi i Chris Jones fanteisio ar gamgymeriad gan Steve Cann yn y gôl i rwydo ail y tîm cartref.

Aeth pethau’n flêr wedyn chwarter awr o’r diwedd pan dderbyniodd Craig Handford gerdyn coch am dacl fudr ar Jamie Brewerton. Arweiniodd hynny at ddadlau ac anfonwyd dau chwaraewr arall oddi ar y cae hefyd, Liam Brownhill i Fangor a Craig Hughes i Gaerfyrddin.

Ond naw dyn yr ymwelwyr a gafodd y gôl nesaf bedwar munud o’r diwedd, Liam Williams yn sgorio i achub pwynt i’w dîm.

Mae’r canlyniad yn achosi i Fangor lithro o frig y tabl i’r ail safle ac mae Caerfyrddin yn aros yn wythfed.

(Torf – 418)

.

Y Drenewydd 1-2 Lido Afan

Enillodd Lido Afan am yr ail wythnos yn olynol wrth i rediad gwael diweddar y Drenewydd barhau ar Barc Latham brynhawn Sadwrn.

Methodd Mark Jones ddau gyfle i roi Lido ar y blaen cyn gwneud hynny saith munud cyn yr egwyl trwy guro Dave Roberts a rhwydo i gôl wag.

Ond roedd y Drenewydd yn gyfartal erbyn hanner amser, y profiadol Nicky Ward yn sgorio cic rydd raenus.

Lido serch hynny oedd yn haeddu’r tri phwynt ac fe ddaeth hwnnw diolch i gôl flêr Paul Evans ddeg munud o’r diwedd.

Nid yw’r canlyniad yn newid dim yn y tabl wrth i Lido aros ar y gwaelod a’r Drenewydd yn yr unfed safle ar ddeg, ond dim ond tri phwynt sy’n gwahanu’r ddau dîm bellach.

(Torf – 160)

.

Port Talbot 1-3 Y Seintiau Newydd

Cododd y Seintiau Newydd i frig Uwch Gynghrair Cymru gyda buddugoliaeth dros Bort Talbot o flaen camerâu Sgorio yn Stadiwm GenQuip brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Alex Darlington yr ymwelwyr ar y blaen o’r smotyn yn yr hanner cyntaf cyn i gôl i’w rwyd ei hun gan James Bloom a pheniad Ryan Fraughan selio’r fuddugoliaeth yn yr ail gyfnod.

(Torf – 158)