Tottenham 1–0 Abertawe

Roedd un gôl yn ddigon i Tottenham yn erbyn Abertawe brynhawn Sul wrth i’r tîm cartref ennill o gôl i ddim ar White Hart Lane.

Rhwydodd Jan Vertonghen chwarter awr o’r diwedd i gipio’r tri phwynt i’w dîm.

Rheolodd Spurs y gêm o’r dechrau ond heb greu llawer tan ddiwedd yr hanner cyntaf. Daeth Kyle Walker yn agos gyda tharan o ergyd ond roedd Gerhard Tremmel yn ddigon dewr i sefyll yn ei llwybr.

Yn y pen arall fe geisiodd Miguel Michu ei lwc o’r llinell hanner bron a bod gan anelu dros drawst gôl Hugo Lloris.

Cafodd Nathan Dyer gyfle gwych ar ddechrau’r ail hanner ond roedd ei beniad yn wan a heibio’r postyn.

Yna, daeth gôl Vertonghen gyda chwarter awr yn weddill. Anelodd Walker gic rydd i’r cwrt cosbi, peniodd Ben Davies hi i lwybr Vertonghen a sgoriodd yr amddiffynnwr ei gôl gyntaf erioed yn yr Uwch Gynghrair gyda foli daclus.

Daeth y gŵr o Wlad Belg yn agos funudau’n ddiweddarach hefyd pan wyrodd ei gic rydd yn beryglus o agos i’r gôl oddi ar droed Leon Britton.

Cafodd Jermain Defoe gyfle da un ar un gyda Tremmel yn y munudau olaf hefyd ond llwyddodd y gôl-geidwad i’w atal.

Daeth cyfle hwyr i’r Elyrch hefyd ond cyrhaeddodd Lloris y bêl o flaen Michu gan adael y Sbaenwr ar ei hyd ar lawr. Wnaeth y dyfarnwr ddim stopio’r gêm gan adael i Spurt wrthymosod ond wnaeth hynny ddim effeithio’r canlyniad.

Mae Abertawe yn aros yn yr hanner uchaf er gwaethaf y canlyniad, yn y degfed safle, tan i West Ham chwarae yn hwyrach brynhawn Sul pryn bynnag.

Barn Michael Laudrup

“Yn yr hanner cyntaf fe ddechreuon ni’n iawn ond yna fe chwaraeodd Tottenham yn dda iawn gan greu cyfleoedd.”

“Fe gawson nhw fwy o feddiant na ni yn yr ail hanner hefyd dwi’n meddwl ond heb greu llawer. Ac fe ddaeth y gôl o gic rydd felly fe allen ni fod wedi ei hosgoi, ond ar y cyfan fe wnaethon ni’n dda o ystyried ein bod yn chwarae oddi cartref yn erbyn Tottenham.”

.

Tottenham

Tîm: Lloris, Vertonghen, Gallas, Naughton, Walker, Dempsey (Sigurdsson 70’), Lennon, Sandro, Adebayor (Townsend 72’), Defoe, Dembele (Parker 90’)

Gôl: Vertonghen 75’

Cardiau Melyn: Dembele 53’, Defoe 90’

.

Abertawe

Tîm: Tremmel, Chico, Williams, Tiendalli, Davies, Britton, Michu, Dyer (Graham 86’), Routledge, De Guzman (Agustien 60’), Ki Sung-Yeung (Moore 75’)

Cardiau Melyn: Dyer 15’, De Guzman 56’, Chico 81’

.

Torf: 35,783