Michael Laudrup
Mae tîm pêl-droed Abertawe yn wynebu Spurs yn eu cartref yn White Hart Lane prynhawn ʼma.
Mae rheolwr Abertawe, Michael Laudrup, wedi dweud ei bod yn disgwyl gweld Spurs ymysg y pedwar cyntaf ar ddiwedd y tymor gan sicrhau eu lle ym Mhencampwriaeth y Pencampwyr y tymor nesaf.
Dywedodd fod y gêm prynhawn heddiw am fod yn anodd. “Mae ganddyn nhw dîm cryf iawn,” meddai.
Yn ei farn fe, meddai, Jermain Defoe o Spurs yw chwaraewr gorau’r gynghrair.
Mae’r Sbaenwr Michu wedi bod yn chwarae yn arbennig o dda i’r Elyrch, ac mae sôn y byd rheolwr tîm cenedlaethol Sbaen, Vicente del Bosque, yn dod i’w wylio’n chwarae yn fuan.
“Mae hynny’n wych i Michu,” meddai Laudrup.