Montpellier 34–21 Gleision
Colli fu hanes y Gleision yng ngrŵp 6 Cwpan Heineken unwaith eto nos Sadwrn wrth i Montpellier eu curo yn y Stade Yves du Manoir.
Roedd y tîm o Gymru yn gystadleuol am gyfnodau ond enillodd y Ffrancwyr gyda phwynt bonws yn y diwedd.
Hanner Cyntaf
Cafodd y Gleision ddechrau gwych gyda chais i Sam Warburton wedi dim ond chwe munud. Taflwyd y bêl i gefn y lein ar y llinell bum medr a thasg hawdd oedd tirio i gapten Cymru.
Tarodd Martin Bustos Moyano yn ôl gyda chic gosb i Montpellier cyn i Rhys Patchell ymateb gyda thri phwynt i’r Gleision.
Ond aeth pethau o chwith braidd i’r Cymry wedi hynny wrth i’r Asgellwr, Timoci Nagusa, a’r bachwr, Rassie van Vuuren, groesi am geisiau i’r tîm cartref. 17-8 ar yr egwyl yn dilyn dau drosiad Bustos Moyano.
Ail Hanner
Aeth pethau o ddrwg i waeth i’r Gleision wedi dim ond dau funud o’r ail hanner wrth i’r asgellwr, Yoan Audrin hefyd groesi i ymestyn mantais y tîm cartref i un pwynt ar bymtheg.
Rhoddwyd llygedyn o obaith i’r Gleision wedyn gyda chais Alex Cuthbert a throsiad Patchell ond ymatebodd Montpellier yn syth gyda phedwaredd cais, yr Albanwr yn y rheng ôl, Johannie Beattie y sgoriwr y tro hwn.
Caeodd Patchell y bwlch i naw pwynt gyda dwy gic gosb o fewn munud toc wedi’r awr ond sicrhaodd y Ffrancwyr y fuddugoliaeth gyda thri phwynt hwyr o droed Bustos Moyano. 34-21 y sgôr terfynol.
Mae’r canlyniad siomedig yn cadw’r Gleision ar waelod grŵp 6.
.
Montpellier
Ceisiau: Timoci Nagusa 16’, Rassie van Vuuren 27’, Yoan Audrin 42’, Johannie Beattie 57’
Trosiadau: Martin Bustos Moyano 16’, 27’, 42’, 57’
Ciciau Cosb: Martin Bustos Moyano 7’, 78’
.
Gleision
Ceisiau: Sam Warburton 6’, Alex Cuthbert 53’
Trosiad: Rhys Patchell 53’
Ciciau Cosb: Rhys Patchell 11’, 61’, 61’