Mae dau ddeifiwr wedi cael eu hachub ar ôl mynd i drafferthion yn chwarel Dorothea yng Ngwynedd.
Mi wnaeth Gwylwyr y Glannau Caergybi cael gwybod am yr argyfwng am 12.122 prynhawn ma. Anfonwyd hofrennydd o RAF y Fali ac Ambiwlans Awyr i’r chwarel ac aethpwyd â’r dynion i uned arbenigol yng Nghilgwri am driniaeth.
Roedd tîm Gwylwyr y Glannau Llandwrog hefyd wedi bod yn rhan o’r ymgyrch achub.
Mae Chwarel Dorothea yn fan sy’n boblogaidd gyda deifwyr ond mae 20 o bobl wedi marw yno ers 1990.