Arlywydd Obama yn dangos ei dristwch ddoe
Mae’r Prif Weinidog wedi anfon llythyr at Arlywydd Obama ar ran pobl Cymru i fynegi cydymdeimlad yn dilyn y trasiedi yn yr ysgol gynradd yn Newtown, Connecticut echdoe pan laddwyd 20 o blant a chwech o oedolion.

Yn ei lythyr, dywedodd Carwyn Jones ei fod yn ysgrifennu ar ran pobl Cymru i fynegi ein cydymdeimlad dwysaf iddo yntau a holl drigolion yr Unol Daleithiau yn dilyn y digwyddiad erchyll a thrasig yn Newtown.

Ni all unrhyw eiriau fynegi’r sioc a thristwch o golli plentyn, meddai’r Prif Weinidog.

“Mae colli gymaint o blant mwn amgylchiadau mor erchyll yn wirioneddol dorcalonnus,” ychwanegodd.