Ysbyty Glan Clwyd
Mae pryderon bod ’na “bwysau sylweddol” ar staff rheng flaen yn Ysbyty Glan Clwyd a bod hynny’n cael effaith ar ddiogelwch cleifion, yn ôl adroddiad.

Mae’r ysbyty ym Modelwyddan wedi cael ei feirniadu mewn adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru sy’n dangos bod nyrsys dan bwysau ac yn gweithio hyd at 100% o’u gallu o safbwynt gwelyau.

Roedd yr adroddiad hefyd yn beirniadu’r oedi wrth dderbyn cleifion gan arwain at ambiwlansys yn ciwio tu allan i’r Uned Ddamweiniau “yn gyson”, ac hefyd methiannau’r ysbyty wrth ymateb i gwynion cleifion.

Mae’r adroddiad wedi cyflwyno 20 o argymhellion.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu bod yn derbyn canlyniadau’r adroddiad a’u bod yn ceisio mynd i’r afael a’r problemau gafodd eu codi yn yr adroddiad.