Caerau, Caerdydd - Llun: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Profiadau pobl ddall a rhannol ddall yng Nghymru o ganol yr 1800au hyd heddiw yw un o’r prosiectau ledled Cymru fydd yn camu i orffennol y wlad.

Mae’r prosiectau yn cael eu noddi gan raglen grantiau bychan Ein Holl Straeon Cronfa Dreftadaeth y Loteri.

Nod y rhaglen grantiau, a ddatblygwyd ochr yn ochr â chyfres hanes BBC 2 ‘The Great British Story – A People’s History’, yw annog pobl i ymwneud â’u hanes lleol, arferion a thraddodiadau.

Mae RNIB Cymru wedi derbyn grant o £10,000 i gynnal eu prosiect, Golwg i mewn i’r Gorffennol, sy’n un o 31 prosiect yng Nghymru i dderbyn grant gan y rhaglen Ein Holl Straeon.

Bydd y prosiect yn para blwyddyn a bydd yn cofnodi profiadau pobl ac yn edrych ar ddatblygiad gwasanaethau i’r deillion, yn ogystal ag olrhain sut mae agweddau cymdeithas tuag at bobl ddall a rhannol ddall wedi newid dros y blynyddoedd.

Meddai Ceri Jackson, Cyfarwyddwr RNIB Cymru: “Rydym ni’n falch iawn i dderbyn y grant hwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ac rydym ni’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau gweithio ar y prosiect.”

“Mae gwasanaethau ar gyfer pobl gyda nam ar eu golwg, ac agweddau tuag at bobl ddall a rhannol ddall, wedi’u trawsnewid mewn cenhedlaeth… ond mae hefyd yn bwysig bwrw golwg yn ôl ar yr hyn sydd eisoes wedi’i gyflawni.”

Mae prosiectau eraill yn cynnwys darganfod mwy am brofiadau mewnfudwyr o Tsiena i Abertawe a chael pobl ifanc lleol i archwilio olion bryngaer o Oes yr Haearn yng Nghaerau, Caerdydd.