Lesley Griffiths
Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi strategaeth newydd i ddelio ag achosion o strôc yng Nghymru.
Mae hynny’n cynnwys rhagor o wasanaethau brys, mwy o gefnogaeth i bobol sydd mewn peryg a mwy o gefnogaeth i rai sy’n gwella ar ôl salwch.
Yn ôl y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, mae angen gwella’r gwasanaethau sydd ar gael a’u codi i safon gwledydd eraill tebyg.
“Mae’r negeseuon yn glir,” meddai’r strategaeth sy’n cael ei chyhoeddi heddiw. “Gyda’n gilydd rhaid i ni wneud mwy i osgoi strôc.
“Rhaid i ni atal y salwch yn well, cael diagnosis cyflym, cynnig y driniaeth orau a darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol lleol sydd wedi eu cynllunio a’u cydlynu’n dda, er m wyn helpu pobol i ddod yn iach ac annibynnol eto.”
Mae’r argymhellion yn cynnwys:
- Cynyddu ymwybyddiaeth y bobol o’r peryg ac ymateb yn well i’r peryg o strôc.
- Mwy o wasanaethau brys ar gael bob dydd o’r flwyddyn.
- Codi safon pob uned arbenigol i’r un lefel a chael rhai unedau arbenigol iawn.
- Gosod targedau a chyhoeddi manylion am wasanaethau lleol o fis Medi 2013 ymlaen.
Dyma’r ffeithiau:
- Strôc yw un o dri phrif achos marwolaeth yng Nghymru.
- Mae chwarter yr achosion mewn pobol sydd dan 65 oed.
- Mae’n effeithio mwy ar rai lleiafrifoedd ethnig.
- Dyw pobol mewn cymunedau tlotach ddim yn gwella cystal – mae hynny’n “hollol annerbyniol” meddai’r Strategaeth.