Mae angen newid sylweddol mewn gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru, meddai Llywodraeth Cymru.
Mae’r Dirprwy Weinidog tros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi annog cynghorau lleol i wneud mwy i gyflymu’r broses.
Wrth wneud datganiad am greu Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, fe ddywedodd Gwenda Thomas fod angen mwy o bobol i fabwysiadu, proses well a mwy o gefnogaeth wedyn.
Roedd hi wedi derbyn casgliadau adroddiad diweddar a ddywedodd fod angen newid mawr yn y system.
Sylwadau Gwenda Thomas
“Dw i hefyd yn cydnabod bod angen newid radical yn y ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu darparu,” meddai Gwenda Thomas mewn datganiad.
“Dw i’n gwrthod derbyn y gall plant gael eu gadael i ogordroi yn y system ofal a dw i’n disgwyl gweld cynnydd yn ystod y blynyddoedd nesaf wrth i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol godi safonau a pherfformiad.”