Bydd rhieni plant sy’n colli ysgol yn rheolaidd yn cael dirwy o hyd at £120 dan gynlluniau sydd wedi cael eu cyhoeddi heddiw an Lywodraeth Cymru.

Mae’r Gweinidog Addysg Leighton Andrews wedi dweud fod nifer yr absenoldebau anawdurdodedig yng Nghymru yn “peri pryder.”

Dan y cynigion bydd Awdurdodau Lleol yn gweinyddu system gosbi ar gyfer rhieni plant sy’n absennol yn rheolaidd heb reswm.

“Dw i’n credu y gallai hysbysiadau cosb benodedig, mewn rhai amgylchiadau, fod yn ffordd aralI o weithredu pan fydd dulliau ymgysylltu ac ymyriadau eraill yn methu,” meddai Leighton Andrews.

“Yn ogystal â bod yn ffordd addas, gyflym ac effeithiol o leihau absenoldeb anawdurdodedig, gallai’r cynigion hyn hefyd leihau’r angen am erlyniadau drud yn y llysoedd,” meddai.

Mae’r Llywodraeth yn cynnig fod y ddirwy gyntaf yn £60, o’i dalu o fewn 28 niwrnod, ac yn £120 o’i dalu ar ôl 28 niwrnod a chyn 42 diwrnod. Ar ôl hynny bydd disgwyl i’r Awdurdod Lleol erlyn.

Mae’r Llywodraeth yn ymgynghori ar y cynlluniau tan Chwefror 22, ac yn gwahodd sylwadau gan y cyhoedd.