Gareth Roberts
Mae tad gyrrwr rali o Sir Gaerfyrddin a fu farw mewn damwain wedi dweud fod neb i’w feio am farwolaeth ei fab.

Cafodd Gareth Roberts ei ladd yn Sicilia ym mis Mehefin pan oedd yn gyd-yrrwr yn ras Targa Florio. Llwyddodd y gyrrwr, Craig Breen o Iwerddon, i ddod allan o’r car yn ddi-anaf.

Yn ystod y cwest yn Llanelli heddiw dywedodd tad Gareth Roberts, a fu’n bencampwr ralio Cymru ei hun, mai “damwain hynod” oedd hi.

“Gallwch chi ddim beio’r gamp a dwi ddim yn beio Craig,” meddai Michael Roberts.

“Chwarae teg i Craig, mae wedi cario llawer ar ei sgwyddau ac mae newydd ennill Pencampwriaeth SWRC y Byd unwaith eto.

“Dwi’n gwybod y byddai Gareth wedi dymuno iddo gario mlaen.”

“Cornel gyflym”

24 oed oedd Gareth ‘Jaffa’ Roberts, o Fronwydd ger Caerfyrddin. Dechreuodd ralio yn 2004 pan oedd yn ei arddegau ac enillodd Gwpan Academi’r Bencampwriaeth Rali gyda Craig Breen yn 2011.

Nid oedd Breen yn bresennol yn y cwest yn Llanelli ond mewn datganiad dywedodd ei fod wedi dechrau troi ar “gornel gyflym” cyn taro i mewn i farier.

“Gofynnais i Gareth a oedd e’n iawn a ches i ddim ateb.

“Roedd gwaed dros ei wyneb a’i drwyn.”

Dywedodd y Crwner Mark Layton mai achos y farwolaeth oedd anafiadau amrywiol yn sgil damwain car a rhoddodd ddyfarniad o farwolaeth ddamweiniol.

Yn dilyn ei farwolaeth cafodd y tlws i’r tîm Cymreig uchaf yn Rali Cymru GB ei ail-enwi yn Tlws Croeso Er Cof Am Gareth Roberts.

Enillodd Roberts yntau’r Tlws Croeso yn 2008, pan oedd yn gyd-yrrwr i Gwyndaf Evans.