Mae Rhodri Glyn Thomas wedi wfftio’r cyhuddiad fod Plaid Cymru yn osgoi trafod y mewnlifiad, yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.

Wythnos diwetha’n y cylchgrawn roedd yr awdur Terry Breverton yn cyhuddo’r Blaid o roi ei phen yn y tywod ar y mater.

“Dw i ddim yn meddwl bod Plaid Cymru yn deall fod y Cymry yng Nghymru bron â bod yn lleiafrif erbyn hyn,” meddai’r cyn-economegydd sydd newydd gyhoeddi bywgraffiad o’r Cymry.

Roedd yn cwyno yn benodol am ddiffyg ymateb y gwleidyddion i ymchwiliad gan bapur newydd The Guardian a ddatgelodd fod cynghorau Llundain am symud teuluoedd heb waith i Ferthyr Tudful am fod rhenti’n rhatach yno.

Gyda’r cap o £400 ar fudd-dal rhentu cartref ar ei ffordd, mae pryder y bydd yn golygu bod mwy o bobol dlawd yn symud i Gymru.

“Ymhell cyn i’r stori ymddangos fe wnaeth Dafydd Wigley godi hyn fis Ionawr,” meddai Rhodri Glyn Thomas, llefarydd Plaid Cymru ar Ewrop, Cymunedau, Llywodraeth Leol a Thai.

“Fe wnaeth e ddatganiad yn beirniadu cynllun y Llywodraeth i osod cap ar fudd-daliadau tai, yn bennaf, achos dyna sy’n achosi’r sefyllfa lle mae pobol eisiau symud i sefyllfaoedd lle mae prisiau tai a rhenti’n llai.”

Ac mae’n bendant bod criw’r Blaid yn y Bae wedi gwneud eu gwaith hefyd.

“Rydan ni wedi codi’r pwnc yn gyson yn y Cynulliad dros y blynyddoedd, yn sôn am y newid demograffig sy’n digwydd yng Nghymru.

“Mae’n effeithio ar etholaethau sy’n cael eu cynrychioli gan Blaid Cymru – Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Ceredigion, Arfon ac Ynys Môn.

“Ac rydyn ni’r aelodau etholedig dros yr etholaethau hynny, wedi rhybuddio fod y newid yma – lle mae yna bobol hŷn at ei gilydd yn symud i mewn i’n hetholaethau ni – yn golygu fod y ddibyniaeth ar wasanaethau cymdeithasol llawer iawn yn uwch, ac ar y gwasanaethau brys hefyd.

“Dw i ddim yn credu bod yna unrhyw ffordd i unrhyw un sy’n gwybod unrhyw beth am y pwnc, ac am y sefyllfa yng Nghymru, i gyhuddo Plaid Cymru o beidio â chyfeirio at beryglon y sefyllfa.”

Y cyfweliad yn llawn yng nghylchgrawn Golwg.

Stori Terry Breverton:

http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/92540-ei-dweud-hi-am-y-mewnlifiad