Mahmoud Abbas - 'tystysgrif geni' ei wlad
Fe gafodd Palestina gefnogaeth gan ddwy ran o dair o holl wledydd y Cenhedloedd Unedig mewn pleidlais ddoe.
Dim ond naw gwlad a wrthwynebodd gynnig i gydnabod gwladwriaeth Palestina, gyda 41 yn atal eu pleidlais. Roedd gweddill y 193 o aelodau o blaid.
Fe gafodd baner Palestina ei thaenu ar lawr Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ac roedd yna ddathlu yn Y Llain Orllewinol.
Yn ôl yr Arlywydd yno, Mahmoud Abbas, roedd y corff rhyngwladol wedi cyhoeddi “tysysgrif geni” i wladwriaeth Balestinaidd.
‘Diystyr’ meddai Israel
Ond Israel sy’n parhau i reoli ffiniau’r wlad a’r awyr uwch ei phen ac mae dwy blaid wahanol mewn grym yn nwy ran y wlad – y Llain Orllewinol a Gaza.
Fe gafodd y penderfyniad ei gondemnio gan yr Unol Daleithiau ac Israel ei hun – yn ôl y Prif Weinidog, Benjamin Netanyahu, roedd y bleidlais yn “ddiystyr”.