Mae dynes wedi cael ei hanafu ar ôl i gar yrru drwy ffenest siop yn Aberdâr.

Dywed Heddlu De Cymru bod y ddynes wedi bod yn siop frechdanau Subway pan yrrodd y car drwy’r ffenest tua 3.30yh prynhawn ma.

Cafodd ei chludo i’r ysbyty ond mae’n debyg nad yw ei hanafiadau yn rhai difrifol.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod tri o gerbydau eraill wedi eu difrodi yn y digwyddiad. Credir mai damwain oedd y digwyddiad.