Cartref Bryn Estyn ger Wrecsam
Mae’r barnwr sy’n cynnal adolygiad o Ymchwiliad Waterhouse i achosion o gam-drin plant mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru wedi rhoi addewid heddiw y bydd yn cynnal ymchwiliad “cadarn”.
Mrs Ustus Macur sy’n arwain yr adolygiad i’r ymchwiliad yn dilyn adroddiadau bod rhai honiadau i achosion o gam-drin plant heb gael eu hymchwilio.
Roedd yr ymchwiliad gwreiddiol yn canolbwyntio ar gartrefi gofal yn hen siroedd cynghorau Gwynedd a Chlwyd ers 1974.
Dywedodd Mrs Ustus Macur: “Rwy’n bwriadu adolygu’n gadarn yr honiadau diweddar fod achosion o gam-drin plant mewn gofal yng ngogledd Cymru heb gael eu hymchwilio fel rhan o Ymchwiliad Waterhouse, ac os na, pam nad oedan nhw wedi cael eu hymchwilio.”
Ychwanegodd y byddai ei hadolygiad yn “drwyadl” ac na fyddai’n dod i unrhyw gasgliadau nes ei bod wedi ystyried yr holl dystiolaeth.
Fe fydd ei hadolygiad yn cael ei gynnal ar y cyd ag ymchwiliad gan yr Asiantaeth Droseddau Genedlaethol (NCA) a fydd yn edrych ar y ffordd yr oedd yr heddlu wedi delio a’r achos ac unrhyw honiadau sydd wedi cael eu gwneud yn ddiweddar.
Cafodd Syr Ronald Waterhouse ei benodi i gynnal yr ymchwiliad gwreiddiol ym 1996 gan glywed tystiolaeth gan 259 o bobl oedd yn honni eu bod wedi eu cam-drin.
Ond mae rhai o gyn-breswylwyr cartref Bryn Estyn yn Wrecsam wedi dweud bod yr ymchwiliad wedi canolbwyntio gormod ar gam-drin gan staff o fewn y sefydliad. Mae ’na honiadau bod bechgyn wedi cael eu cymryd o’r cartref er mwyn cael eu cam-drin gan grŵp o bedoffiliaid.
Cafodd ymchwiliad ei gynnal gan Heddlu Gogledd Cymru yn 1991 a arweiniodd at saith o gyn weithwyr gofal yn cael eu dedfrydu. Ond roedd ’na ddyfalu bod y cam-drin ar raddfa llawer mwy.