Mae dyn 43 oed a dynes, 24, o ardal Cwmbrân a gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddio babi mis oed wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau’r heddlu’n parhau.

Cafodd yr heddlu eu galw i dy yn Heol Waun Hywel, Pontnewydd  tua 10.35yh nos Sadwrn, 17 Tachwedd gan y gwasanaeth ambiwlans yn dilyn pryderon am iechyd y babi, Amelia Jones.

Cafodd Amelia ei chludo i Ysbyty Brenhinol Gwent ac yna i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ond bu farw’r ferch fach ddydd Llun.

Wrth roi teyrnged i’w ferch fach heddiw dywedodd  tad Amelia Jones, Ian Skillern ei bod wedi dod “a hapusrwydd mawr i mi yn ystod y cyfnod byr y bu hi yma.”

Dywedodd y byddai’n helpu Heddlu Gwent “mewn unrhyw ffordd i geisio darganfod pam bod y drasiedi yma wedi digwydd.”