George Entwistle
Mae un o ymddiriedolwyr y BBC fu’n gysylltiedig â’r penderfyniad i roi £450,000 i George Entwistle ar ôl iddo ymddiswyddo fel cyfarwyddwr cyffredinol wed mynnu heddiw ei fod yn credu ei fod wedi gwneud y peth iawn.
Dywedodd Anthony Fry bod George Entwistle wedi ei gwneud yn glir ei fod eisiau cyflog blwyddyn am ymddiswyddo wedi dim ond 54 diwrnod yn y swydd – dwywaith gymaint yr hyn roedd ganddo hawl iddo yn ei gytundeb.
Yn ôl Fry roedd Ymddiriedolaeth y BBC yn gorfod penderfynu a oedden nhw am ddatrys y broblem yn syth neu wynebu tribiwnlys diwydiannol posib.
Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd, dywedodd Anthony Fry ei fod wedi ei “gythruddo” gan y swm roedd Entwistle yn gofyn amdano ond, serch hynny, fe benderfynodd ef a chadeirydd yr Ymddiriedolaeth, yr Arglwydd Patten, y byddai’n well derbyn ei gynnig i ymddiswyddo ar 10 Tachwedd.
Datgelodd Fry bod George Entwistle hefyd wedi derbyn yswiriant meddygol preifat am flwyddyn, ynghyd a £10,000 tuag at gostau cyfreithiol yn ymwneud a’i ymddiswyddiad, costau cyfreithiol o hyd at £25,000 i’w helpu i roi tystiolaeth i ddau ymchwiliad i helynt Jimmy Savile, a £10,000 ar gyfer PR i’w helpu i ddelio gyda’r wasg.
Roedd Fry yn cyfaddef y byddai’r ffigurau’n ymddangos yn ormodol i’r rhai sy’n talu’r drwydded ond mynnodd nad oedd yn anghyffredin i rai o uwch reolwyr y BBC.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor Margaret Hodge eu bod i gyd yn mynegi “anghrediniaeth” bod Entwistle wedi derbyn £450,000.
Ychwanegodd bod y cyn gyfarwyddwr cyffredinol wedi cael ei “wobrwyo am ei fethiant” ac y byddai hynny y tu hwnt i ddealltwriaeth y rhan fwyaf o bobl.
Yn ôl Guto Bebb, aelod arall o’r pwyllgor cyfrifon, roedd £4 miliwn wedi cael ei dalu i 10 o brif weithredwyr y BBC yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac ychwanegodd: “Mae’n ymddangos bod colli swydd yn y BBC yr un fath ag ennill y Loteri.”