Rhan o'r ysgol (o adroddiad Santia)
Fe fydd cyngor sir yn ystyried dymchwel ysgol sydd wedi ei heintio gan asbestos.

Yn ôl arbenigwyr, fe ddylai Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffilli wahardd pawb rhag mynd i Ysgol Uwchradd Cwmcarn oherwydd y peryg i’w hiechyd a’r ateb yn y pen draw, medden nhw, yw chwalu’r adeilad yn llwyr.

“Mae yna beryg difrifol o fod yn agored i ronynnau asbestos,” meddai.r adroddiad gan gwmni Santia o Nantgarw. “Mae yna beryg sylweddol i’r bobol yn Ysgol Cwmcarn.”

Asbestos yn cael ei wasgaru

Yn ôl yr archwiliwr, Gareth Vaughan, roedd asbestos yn lloriau, waliau a theils to yn rhai o adeiladau’r ysgol yn cael ei wasgaru gan bethau mor syml â disgyblion yn symud cadeiriau, gwresogwyr,  gwynt yn chwythu drysau a ffenestri a newid bylbiau golau.

Mae nifer o ymchwiliadau eraill ar droed ac, yn ôl Santia, mae angen rhagor eto ac mae angen gwahardd pobol o’r ysgol yn y cyfamser.

O ystyried y gwahanol ddewisiadau, maen nhw’n argymell mai’r ateb yn y pen draw yw cau’r ysgol a dymchwel yr adeiladau.

Cyfrifoldeb

Ysgol Cwmcarn yw’r unig Ysgol Sefydliad yn ardal Caerffili sy’n golygu ei bod yn lled-annibynnol ar y cyngor lleol.

Yn ôl adroddiad arall gan Ddirprwy Brif Weithredwr y Cyngor, Nigel Barnett, Bwrdd Llywodraethwyr yr ysgol sy’n gyfrifol am yr adeiladau ac yn benna’ gyfrifol am y staff.

Fe ddywedodd y gallai’r problemau asbestos arwain at gyfrifoldeb sifil a throseddol.