Mae cwmni o’r Iseldiroedd sydd â safleoedd yng Nghymru yn gwerthu ei fusnesau ym Mhrydain.

Dywed cwmni bwydydd Vion NV eu bod nhw am “ganolbwyntio ar y farchnad graidd yn yr Iseldiroedd a’r Almaen a datblygu’r busnes cynhwysion byd-eang.”

Mae’r cwmni yn cyflogi 13,000 o bobol ar 38 safle ym Mhrydain, gan gynnwys lladd-dy Welsh Country Foods yn y Gaerwen ar Ynys Môn, a safle prosesu dofednod yn Sandycroft ar Lannau Dyfrdwy.

Dywed Vion eu bod nhw’n hyderus y byddan nhw’n medru cael prynwr i’w busnesau cigoedd nhw ym Mhrydain fel bod y busnesau yn medru parhau.

“Mae lefel y diddordeb yn y busnes yn gryf a gobeithiwn y byddwn mewn safle yn y dyfodol agos i roi mwy o wybodaeth am y datblygiad sydd wedi ei wneud,” meddai cadeirydd Vion UK, Peter Barr.

“Bydd y broses o werthu yn cael ei wneud mewn modd llyfn a threfnus fel bod dilyniant busnes i’n gweithwyr, cyflenwyr a chwsmeriaid,” meddai.