Mae disgwyl y bydd Llafur yn ennill yn gyfforddus yn isetholiad De Caerdydd a Phenarth heddiw ac fe allai’r bleidlais gael effaith ar etholiad Comisiynydd Heddlu De Cymru hefyd.

Pennaeth Oxfam yng Nghymru, Stephen Doughty, yw’r ffefryn i ddilyn Alun Michael sydd wedi ymddiswyddo er mwyn cynnig am swydd y Comisiynydd.

Roedd ef wedi ymyrryd yn ddadleuol i gefnogi Stephen Doughty wrth iddo geisio am yr enwebiad Llafur ond does dim disgwyl i hynny effeithio ar y canlyniad.

Cyfle i roi barn

Er bod pleidlais a mwyafrif y Blaid Lafur wedi syrthio ychydig yn yr Etholiad Cyffredinol, dyma fydd cyfle cynta’ pleidleiswyr yng Nghymru i roi eu barn ar Lywodraeth y Glymblaid yn Llundain.

Dyma’r isetholiad cynta’ yn yr ardal ers union 70 mlynedd yn ôl pan oedd isetholiad yn Nwyrain Caerdydd yn 1942.

Fe allai’r isetholiad gael effaith ar bleidlais y Comisiynydd Heddlu hefyd, gan fod lefel y pleidleisio’n debyg o fod yn uwch nag mewn etholaethau eraill … ac Alun Michael yw’r ymgeisydd Llafur yn yr etholiad hwnnw.

Y manylion

Yn yr Etholiad Cyffredinol, roedd gan Lafur fwyafrif o 4,709 tros y Ceidwadwyr – bwlch o 10.6%.

Y saith ymgeisydd:

Stephen Doughty, Llafur

Robert Griffiths, Y Blaid Gomiwnyddol

Andrew Jordan, Llafur Sosialaidd

Bablin Molik, Democratiaid Rhyddfrydol

Luke Nicholas, Plaid Cymru

Anthony Slaughter, Plaid Werdd

Craig Williams, Ceidwadwyr

Stephen Zeigler, UKIP