Mae pryder y bydd nifer y pleidleiswyr yn isel iawn yfory pan fydd y blychau pleidleisio yn agor er mwyn ethol Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd.

Mae cyn-ysgrifennydd cartref Prydain David Blunkett heddiw wedi rhybuddio y bydd y tyrnowt yn is na 15% ac na fydd gan y comisiynwyr yr awdurdod angenrheidiol os bydd cyn lleied o bobol wedi pleidleisio iddyn nhw.

Yn ei golofn yn y Western Mail dywedodd y sylwebydd Dylan Iorwerth fod diffyg ymwybyddiaeth yr etholwyr am yr ymgeiswyr a’r hyn maen nhw’n sefyll drosto yn “codi cwestiynau mawr am ystyr democratiaeth.”

“Rhwng popeth, mae’r syniad yn llanast llwyr ac wedi cael ei orfodi ynddo’i hun gan ymgais Llywodraeth i wneud rhywbeth arwynebol, poblogllyd” meddai Dylan Iorwerth.

Mae undeb Unsain wedi dweud y gallai tyrnowt isel arwain at ethol ymgeiswyr sy’n cefnogi toriadau i gyllid yr heddlu ac sydd o blaid preifateiddio gwasanaethau’r heddlu.

Sistem bleidleisio

Mae pymtheg ymgeisydd yn ymladd am y pedair sedd yng Nghymru

Yng Ngogledd Cymru, De Cymru a Gwent bydd sistem bleidleisio ‘atodol’ yn cael ei defnyddio, ble mae’n bosib i bleidleiswyr dorri ail groes wrth eu hail ddewis nhw.

Yn Nyfed Powys, sydd â dau ymgeisydd yn unig, y system bleidleisio cyntaf-i’r-felin sy’n cael ei defnyddio, ble mae pleidleiswyr yn torri un groes yn unig.

Bydd y pleidleisiau ar gyfer y pedair ardal yng Nghymru  yn dechrau cael eu cyfrif am 9 o’r gloch fore Gwener.

De Caerdydd a Phenarth

Yn Ne Caerdydd a Phenarth bydd is-etholiad yn cael ei gynnal gan fod Alun Michael, a oedd yn Aelod Seneddol dros yr etholaeth, wedi penderfynu ymgeisio i fod yn Gomisiynydd Heddlu De Cymru.

Bydd y pleidleisiau yn cael eu cyfrif yno yn fuan ar ôl i’r blychau gau am 10 y nos.

Rhestr o ymgeiswyr Comisiynwyr yr Heddlu yng Nghymru:

De Cymru:

Michael Baker (Annibynnol), Caroline Jones (Ceidwadwyr), Alun Michael (Llafur), Tony Verderame (Annibynnol)

Dyfed Powys:

Christine Gwyther (Llafur), Christopher Salmon (Ceidwadwyr)

Gogledd Cymru:

Richard Hibbs (Annibynnol), Colm McCabe (Ceidwadwyr), Tal Michael (Llafur), Warwick Nicholson (UKIP) , Winston Roddick (Annibynnol)

Gwent:

Ian Johnston (Annibynnol), Hamish Sandison (Llafur), Nick Webb (Ceidwadwyr), Christopher Wright (Annibynnol)