Syr Mervyn King
Mae llywodraethwr Banc Lloegr Syr Mervyn King wedi rhybuddio heddiw y gall twf yn economi’r DU grebachu eto os yw’n parhau i fod mewn cyflwr mor fregus.

Wrth gyflwyno adroddiad chwyddiant chwarterol y Banc, dywedodd Syr Mervyn y gall Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) ostwng yn ystod tri mis ola’r flwyddyn yn dilyn twf o 1% rhwng mis Gorffennaf a mis Medi a oedd wedi bod yn “rhy optimistaidd,” meddai.

Mae’r Banc wedi rhybuddio bod ffactorau tros dro wedi ystumio’r rheiny – digwyddiadau fel y Jiwbilî a’r Gemau Olympaidd.

Mae’r Banc wedi  gostwng eu disgwyliadau am dwf ar gyfer 2013 i tua 1%.

Mae hefyd wedi adolygu eu disgwyliadau ar gyfer chwyddiant, ac mae disgwyl i’r raddfa syrthio o fewn targed y Llywodraeth o 2% yn ail hanner 2013, yn hwyrach nag oedd wedi proffwydo.